Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyllid


Lleoliad:Ystafell Bwyllgora 4, Senedd

a fideogynhadledd ar Zoom

Dyddiad: Dydd Mercher, 7 Chwefror 2024

Amser: 10.15 - 12.23
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13700


Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd)

Peter Fox AS

Mike Hedges AS

Rhianon Passmore AS

Tystion:

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Emyr Harries, Llywodraeth Cymru

Lloyd Hopkin, Llywodraeth Cymru

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Simon Tew, Llywodraeth Cymru

Ben Crudge, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Owain Roberts (Clerc)

Leanne Hatcher (Ail Glerc)

Cerian Jones (Ail Glerc)

Mike Lewis (Dirprwy Glerc)

Rhiannon Williams (Dirprwy Glerc)

Owen Holzinger (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Ni chafwyd dim ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.

</AI1>

<AI2>

2       Papurau i'w nodi

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

</AI2>

<AI3>

2.1   PTN 1 - Ymateb Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar ei waith craffu blynyddol ar rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - 26 Ionawr 2024

</AI3>

<AI4>

2.2   PTN 2 - Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Oblygiadau Ariannol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 26 Ionawr 2024

2.2.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn gofyn am ragor o wybodaeth mewn ymateb i argymhellion y Pwyllgor ar gostau sy’n ymwneud â Chomisiwn y Senedd sy’n deillio o’r Bil.

</AI4>

<AI5>

2.3   PTN 3 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2024 - 17 Ionawr 2024

</AI5>

<AI6>

2.4   PTN 4 - Llythyr gan Archwilio Cymru: Ymateb i waith craffu blynyddol y Pwyllgor Cyllid ar Swyddfa Archwilio Cymru – 1 Chwefror 2024

</AI6>

<AI7>

2.5   PTN 5 - Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru): Ymateb Llywodraeth Cymru - 1 Chwefror 2024

</AI7>

<AI8>

3       Goblygiadau ariannol y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru): Sesiwn dystiolaeth

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg; Emyr Harries, Dirprwy Gyfarwyddwr Cynllunio Busnes a Llywodraethiant Addysg; a Lloyd Hopkin, Dirprwy Gyfarwyddwr Cwricwlwm.

 

3.2 Cytunodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i ddarparu nodyn ar drefniadau arolygu ar gyfer canolfannau gweithgareddau awyr agored preswyl a chostau cysylltiedig.

</AI8>

<AI9>

4       Goblygiadau ariannol Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Ben Crudge, Pennaeth Polisi Trethi Lleol; a Simon Tew, Rheolwr y Bil.

</AI9>

<AI10>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI10>

<AI11>

6       Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>